Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
31 Ionawr 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4902
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5, 6 ac 8 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.24
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ffigurau marwolaethau mewn adrannau achosion brys yng Nghymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar Gymru ar sail y dadansoddiad o dair sefyllfa gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddatgelwyd ddydd Llun?
Dechreuodd yr eitem am 15.48
Gwnaeth Russell George ddatganiad i nodi 30 mlwyddiant Opera Canolbarth Cymru.
Dechreuodd yr eitem am 15.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6626
Mick Antoniw (Pontypridd)
David
Melding (Canol De Cymru)
David
Rees (Aberafan)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod contractau preswyl lesddaliad yn parhau i gynrychioli cyfran sylweddol o eiddo a adeiladir o'r newydd yng Nghymru; a
a) bod contractau preswyl lesddaliad yn aml yn cael eu cynnig ar delerau anfanteisiol, gan arwain at niwed i berchennog y cartref; a
b) mai ychydig o amddiffyniad sydd gan berchnogion cartrefi lesddaliad rhag ffioedd afresymol ac oedi afresymol wrth brynu, gwerthu neu wella eu heiddo.
2. Yn nodi gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar werthu eiddo lesddaliad a adeiladir o'r newydd yn Lloegr.
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu perchnogion cartrefi yn y dyfodol drwy ddiddymu contractau preswyl lesddaliad yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
14 |
1 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.47
NDM6643 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb: Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo'i Hangen Arnynt (P-05-710), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.28
NDM6642 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.31
Dechreuodd yr eitem am 18.32
NDM6644 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Agor drysau: sicrhau eglurder ynghylch mynediad i bobl anabl ac argaeledd diffibrilwyr
Galw am system lle mae'r holl fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus yn arddangos manylion am eu lefel o hygyrchedd i bobl anabl yn ogystal â gwybodaeth am pa offer achub bywyd sydd ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd os bydd argyfwng.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.56
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2018